Carl Morris's Avatar

Carl Morris

@morriscarl.bsky.social

Diddordeb mewn trawsnewid y cyfryngau. Datblygydd gwe, ymgynghorydd, a chydlynydd pobl bach.

109 Followers  |  131 Following  |  38 Posts  |  Joined: 14.11.2024
Posts Following

Posts by Carl Morris (@morriscarl.bsky.social)

Preview
Galw am ysgol Gymraeg newydd yw’r “unig opsiwn ar y bwrdd” Mae angen ysgol newydd bob oed (3-19) cyfrwng Cymraeg i Dre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos, medd ymgyrchwyr

Galw am ysgol Gymraeg newydd yw’r “unig opsiwn ar y bwrdd”

Mae angen ysgol newydd bob oed (3-19) cyfrwng Cymraeg i Dre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos, medd ymgyrchwyr

✍️ Alun Rhys Chivers

18.02.2026 12:30 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0

Mater o gyfiawnder cymdeithasol yw sicrhau bod addysg uwchradd Gymraeg ar gael yn lleol i wasanaethu teuluoedd Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos.

19.02.2026 08:28 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0

Rhaid bod fideo yn Gymraeg gan Blaid Genedlaethol Cymru.

04.02.2026 22:20 — 👍 2    🔁 0    💬 0    📌 0
Preview
'Angen i wyliau Cymraeg gael effaith barhaol ar y cymunedau sy’n eu cynnal' Mae angen i wyliau mawr y Gymraeg gael effaith barhaol ar y cymunedau sy’n eu cynnal, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith fyw, nid dim ond iaith dysg'

Adroddiad yn galw am wyliau mawr y Gymraeg i gael effaith barhaol ar y cymunedau sy’n eu cynnal.
newyddion.s4c.cymru/article/32730

04.02.2026 12:07 — 👍 5    🔁 2    💬 0    📌 0
Video thumbnail

Dyma Angharad Tomos yn sôn am ei phrofiad fel aelod o Gymdeithas yr Iaith 🙌🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwylia’r fideo llawn fan hyn ➡️ www.youtube.com/watch?v=O4Ql...

Ymaeloda gyda’r Gymdeithas heddiw i gyfrannu at ddyfodol y Gymraeg ➡️ cymdeithas.cymru/ymaelodi

02.02.2026 19:38 — 👍 8    🔁 5    💬 0    📌 0
Preview
Is AI Really Taking Jobs? Or Are Employers Just 'AI-Washing' Normal Layoffs? - Slashdot The New York Times lists other reasons a company lays off people. ("It didn't meet financial targets. It overhired. Tariffs, or the loss of a big client, rocked it...") "But lately, many companies ...

I ba raddau mae cyflogwyr yn defnyddio "AI" fel esgus di-sail dros ymddiswyddo gweithwyr, sy'n gadael mewn gwirionedd am resymau eraill? O edrych at [an]alluoedd modelau iaith mawrion dw i'n meddwl bod hyn yn rhemp.

02.02.2026 15:33 — 👍 0    🔁 0    💬 0    📌 0
Bruce Springsteen - Streets Of Minneapolis (Official Audio)
YouTube video by Bruce Springsteen Bruce Springsteen - Streets Of Minneapolis (Official Audio)

I wrote this song on Saturday, recorded it yesterday and released it to you today in response to the state terror being visited on the city of Minneapolis. It’s dedicated to the people of Minneapolis, our innocent immigrant neighbors and in memory of Alex Pretti and Renee Good.

Stay free

28.01.2026 17:02 — 👍 97505    🔁 40918    💬 4305    📌 5373

Diolch yn fawr Cyng Berman am godi hyn.

Mewn dinas maint Caerdydd mae angen ysgolion Cymraeg ardderchog - yn y gorllewin, gogledd, dwyrain, a'r de.

Dyna pam rydyn ni fel ymgyrch yn galw am ysgol Gymraeg bob oed yn Grangetown/Tre-biwt i blant o bob cefndir...

28.01.2026 11:33 — 👍 2    🔁 2    💬 2    📌 0
Emily Pemberton

Emily Pemberton

"Mae nifer wedi elwa o addysg Gymraeg, ond mae’n rhaid i blant deithio ar draws y ddinas...

Rydyn ni’n sôn am ganolfan gymunedol ar gyfer ardaloedd Tre-biwt, Grangetown, a’r de yn benodol... Mae'n gyfrifoldeb ar Huw Thomas a Chyngor Caerdydd i gymryd hyn o ddifri a gweithredu.” Emily Pemberton

23.01.2026 10:28 — 👍 1    🔁 2    💬 0    📌 0

Cardiff Council leader Huw Thomas' legacy is at stake unless he establishes an all-ages school to serve the communities of Butetown, Grangetown, and surrounding areas - immediately.

22.01.2026 21:31 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0

Mae gwaddol Huw Thomas yn y fantol.

Cefnogwch a gweithredwch Opsiwn 5 Paragraff 70 o'r papur cabinet: sefydlwch ysgol bob oed Tre-biwt a Grangetown - 4edd ysgol uwchradd Gymraeg y ddinas a darpariaeth meithrin/cynradd hefyd.

Mae angen adeilad newydd yng nghanol y gymuned ac hynny ar unwaith!

22.01.2026 13:48 — 👍 0    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Ysgol Gymraeg bob oed i Gaerdydd? Mae arbenigwr addysg yn dweud y gallai ysgol bob oed gynnig ateb i alwadau ar gyfer ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd. Mae ysgol bob oed yn sefydliad sydd â mynediad i blant o oedran meithrin – tua dwy a h...

Dyma gyfle arall i ddarllen erthygl difyr am y manteision o gael ysgol bob oed.

golwg.360.cymru/newyddion/21...

21.01.2026 23:11 — 👍 1    🔁 3    💬 0    📌 0

"Mae darparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant lleol, hyrwyddo teithio cynaliadwy, a chefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol"
- Cyng Sarah Merry

💯

15.01.2026 18:40 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
llangynwyd

llangynwyd

"oes gennych funud am sgwrs gyda'r ymgeisydd?"

13.01.2026 16:12 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0
Strategaeth "Caerdydd Ddwyieithog"

Strategaeth "Caerdydd Ddwyieithog"

Mae Cyngor Caerdydd yn hoff o siarad am "Caerdydd Ddwyieithog" sydd, o ran mynediad at y Gymraeg, yn fwy o uchelgais na realiti. Mae gormod o rwystrau’n parhau.

12.12.2025 10:42 — 👍 2    🔁 2    💬 1    📌 1
Preview
Ysgol Gymraeg bob oed i Gaerdydd? Yn rhan o ymgyrch Ysgol De Caerdydd, mae arbenigwr yn trafod y posibilrwydd o ysgol bob oed fel ateb

Ysgol Gymraeg bob oed i Gaerdydd?

Yn rhan o ymgyrch Ysgol De Caerdydd, mae arbenigwr yn trafod y posibilrwydd o ysgol bob oed fel ateb

✍️ Rhys Owen

13.11.2025 13:35 — 👍 2    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Cwestiynu cyngor am eu dyletswyddau cyfreithiol dros addysg Gymraeg Mae arbenigwr yn codi cwestiynau a yw cyngor Caerdydd yn cyflawni dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas ag addysg Gymraeg y brifddinas.

Llawer o deuluoedd Grangetown, Tre-biwt, ac ardaloedd cyfagos yn ne Caerdydd yn cael eu hamddifadu o addysg uwchradd Cymraeg oherwydd bod y 3 ysgol uwchradd wedi'u lleoli i'r gogledd yn y ddinas.

Gweithredwch @cyngorcaerdydd.bsky.social @huwthomas-wales.bsky.social

www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...

11.11.2025 13:54 — 👍 1    🔁 3    💬 0    📌 0

Bore da. Heddiw bydd trafodaeth am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ar BBC Radio Cymru tua 7:30yb, tiwniwch mewn!

11.11.2025 07:13 — 👍 4    🔁 2    💬 1    📌 0
Preview
Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, wedi ennill yr is-etholiad i Senedd Cymru yn etholaeth Caerffili.

Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili

newyddion.s4c.cymru/article/30996

24.10.2025 03:32 — 👍 4    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Gwyn Alf Williams - Wicipedia

Union ganrif ar ôl geni Gwyn Alf mis diwethaf. Ble oedd y parti?

cy.wikipedia.org/wiki/Gwyn_Al...

07.10.2025 09:44 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Post image

Llongyfarchiadau enfawr i Owain Meirion ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith 2025-26👏🏼

04.10.2025 14:56 — 👍 14    🔁 5    💬 1    📌 0
Preview
Map prototeip o lofnodion Deiseb Heddwch Menywod Cymru (Hacathon Hanes 2025) - Carl Morris Gwych iawn oedd cael cymryd rhan yn y digwyddiad Hacathon Hanes 2025 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar[...]

Manylion am y map morris.cymru/cy/2025/04/m... Bydd hi'n dda cael ychwanegu mwy o ardaloedd yn fuan.

21.09.2025 20:24 — 👍 1    🔁 0    💬 0    📌 0
Deiseb Heddwch Menywod Cymru - prawf

Ar Ddiwrnod Heddwch y Byd dyma fap o lofnodwyr Deiseb Heddwch Menywod 1923 oedd yn byw yng Nghaerdydd. morris.cymru/deisebheddwch/

21.09.2025 20:24 — 👍 3    🔁 0    💬 1    📌 0
Video thumbnail

Falch o glywed geiriau arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas am bwysigrwydd rhoi addysg Gymraeg i blant o bob cefndir. Dyna'n union pam mae angen ysgol uwchradd Gymraeg ar stepan drws plant yn ne Caerdydd - Tre-biwt, Grangetown, ac ardaloedd cyfagos. Mae hi'n amser gweithredu!

Pawb a'i Farn, 11 Medi

17.09.2025 08:30 — 👍 3    🔁 1    💬 1    📌 0
Dirprwyaeth yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd o flaen Neuadd y Sir

Dirprwyaeth yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd o flaen Neuadd y Sir

Falch o gael ymweld â Neuadd y Sir i gyflwyno'r achos dros yr ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd.

Mae bwriad gan yr Arweinydd, Huw Thomas, i gyflwyno Papur Cabinet cyn y Nadolig lle byddwn yn disgwyl gweld dechrau ar y broses o sefydlu'r ysgol uwchradd dan ei arweiniad ef.

11.09.2025 19:56 — 👍 2    🔁 1    💬 2    📌 0
Preview
Galw am ysgol uwchradd Gymraeg i dde Caerdydd mewn gig Wrth i haf prysur llawn cerddoriaeth ddod i ben yng Nghaerdydd, mae’r ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne’r brifddinas wrthi’n trefnu gig amgen yn Y Canopi ar Heol Tudor nos yfory (Awst 2...

Wrth ein bodd bod nifer o gerddorion talentog wedi dod ynghyd i ganu dros yr achos a herio diffyg gweithredu presennol y Cyngor Llafur a'r arweinydd Huw Thomas. Byddwn yn gwrando ar rai o’r dalentau Cymreig gorau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig.

golwg.360.cymru/newyddion/ad...

27.08.2025 19:34 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0

Mynnwch docyn! Dolen mewn bio

Get your ticket now! Link to buy in bio

26.08.2025 07:05 — 👍 0    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
a yellow smiley face wearing sunglasses and smiling on a white background Alt: emoji sbectol haul

Rhowch nos Iau 28 Awst ar eich calendr. Bydd digwyddiad arbennig gyda chroeso cynnes i bawb. Manylion i'w dilyn!

Please put Thursday 28 August on your calendar. There will be a special event with a warm welcome to all. Details to follow!

15.08.2025 20:10 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Post image

The First Minister has been accused of misleading the Senedd following a revelation that the Welsh Government had funded a weapons supplier that exports arms to Israel ✍️Emily Price wp.me/p8Mk4U-13gi

25.07.2025 19:03 — 👍 4    🔁 2    💬 3    📌 0
Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Annwyl Gyngor Caerdydd, sefydlwch yr ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd i blant o bob cefndir...

Gwneud Nid Dweud!

Welsh-medium secondary school in south Cardiff for children of all backgrounds. Now for fewer words and more action from Cardiff Council.

17.07.2025 17:46 — 👍 2    🔁 3    💬 1    📌 0