Ann Parry Owen's Avatar

Ann Parry Owen

@collen105.bsky.social

Cymraes. Barddoniaeth ganoloesol a geiriadura. Athro. Hoffi dysgu pethau newydd. / Welsh lexicography and medieval poetry. @geiriadur @ganolfan Geiriadura.cymru

196 Followers  |  131 Following  |  32 Posts  |  Joined: 20.11.2024  |  1.7723

Latest posts by collen105.bsky.social on Bluesky

Post image

Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800).

Englyn Dewi Emrys i'r gorwel:

Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod:
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.

11.09.2025 09:15 โ€” ๐Ÿ‘ 8    ๐Ÿ” 4    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Beth yw'ch gair chi am slefren fรดr neu bysgodyn jeli? Cont fรดr oedd gair Lewis Morris (1754) a cheir Cont goch gan Edward Lhuyd (1684). Ond yr enw hynaf sydd gennym yn Gymraeg yw BLOBYS gan John Jones Gellilyfdy (1632).
#GeirfaurFflyd @geiriadur.bsky.social

28.08.2025 21:29 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Post image Post image

Braf ymweld รข @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr...

27.08.2025 08:33 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: pyngo โ€˜tyfuโ€™n glystyrau, cynhyrchuโ€™n doreithiog (am goed ffrwythau, &c.), bod yn drwmlwythog (รข ffrwythau)โ€™ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ceir sawl amrywiad llafar ar y gair, e.e. pingo (Ceredigion aโ€™r De), plyngad (Cwm Rhondda), plingo a byngad (Ceredigion).

20.08.2025 10:51 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Preview
Dros Frecwast - 19/08/2025 - BBC Sounds Y newyddion diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt, gyda Kate Crockett a Dylan Ebenezer.

Gwrandewch ar Catrin Huws, un o Olygyddion Cynorthwyol y Geiriadur, yn trafod rhai o'r geiriau 'newydd' sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar 'Dros Frecwast' ar BBC Radio Cymru y bore 'ma (www.bbc.co.uk/sounds/play/... gan ddechrau tua 55:40 munud drwy'r rhaglen).

19.08.2025 08:56 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 5    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

โš ๏ธ Seminar announcement: in semester 2 of the new academic year (Feb-May 2026), I will be teaching a

๐’๐ž๐ฆ๐ข๐ง๐š๐ซ ๐จ๐ง ๐€๐ง๐œ๐ข๐ž๐ง๐ญ ๐‚๐ž๐ฅ๐ญ๐ข๐œ ๐‹๐š๐ง๐ ๐ฎ๐š๐ ๐ž๐ฌ (SG648)

in the Dept. of Early Irish (@ceilteachomn.bsky.social) at Maynooth University.
Guests from outside are very welcome.

More info โฌ‡๏ธ

11.08.2025 12:39 โ€” ๐Ÿ‘ 61    ๐Ÿ” 22    ๐Ÿ’ฌ 9    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

@geiriadur.bsky.social @cambriansarch.bsky.social @yganolfangeltaidd.bsky.social

06.08.2025 08:34 โ€” ๐Ÿ‘ 2    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: BRICYLL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a fathwyd gan William Owen Pughe (1793) ar รดl teimlo bod diffyg gair Cymraeg amdano.
Bu'n fathiad llwyddiannus!
Cysylltwch os oes gennych chithau awgrym am eiriau newydd, ar รดl teimlo #dylaifodgairamhyn. Cawn eu trafod yn yr Eisteddfod!

30.07.2025 11:10 โ€” ๐Ÿ‘ 2    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: rhuddygl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., llysieuyn poethlym ei flas a ddefnyddid gynt mewn meddyginiaethau.
Radish geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... ywโ€™n gair arferol heddiw, ond enwau eraill gynt oedd rhaddig, rhodri, rhadicl โ€“ y cyfan yn perthyn iโ€™r Lladin radix, radic- โ€˜gwreiddynโ€™

18.07.2025 08:59 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Cyfarchion o Ffrainc! @prosiectmyrddin.bsky.social

03.07.2025 10:43 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: LETUS www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., ein gair arferol am ddail salad. Mwy cyffredin ers talwm oedd www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... GWYLAETH. Cyfeiriaโ€™r ddau enw at natur laethog y dail โ€“ LETUS yn tarddu yn y pen draw oโ€™r Lladin lactลซca โ€˜llaethogโ€™ a llaeth yn ail elfen gwyLAETH

02.07.2025 07:50 โ€” ๐Ÿ‘ 5    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

๐Ÿšจ Celtica is now available open-access! This is the result of painstaking work going on behind the scenes since 2022. Issues 33 to 36 (2021โ€“24) are now online, and future issues will appear online & in print. We will also digitize the back issues of the journal.
๐Ÿ”— journals.dias.ie/index.php/ce...

23.06.2025 07:25 โ€” ๐Ÿ‘ 80    ๐Ÿ” 34    ๐Ÿ’ฌ 4    ๐Ÿ“Œ 3
Post image

CAA Eisteddfod Lecture 16.30 Wednesday 6th August, 2025 (by Ann Parry Owen). Join us for our annual Welsh-language lecture on the Maes at Wrexham on the fascinating word-lists created in 1632อ-3 by the manuscript copier John Jones of Gellilyfdy, Flintshire.

16.06.2025 15:26 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 4    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Darlith Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru yn yr Eisteddfod (gan Ann Parry Owen) 16.30 Mercher 6ed Awst, 2025 yn Wrecsam โ€“ ymunwch รข ni am ddarlith ddifyr ar y rhestrau geiriau rhyfeddol a luniodd y copรฏwr llawysgrifau John Jones, Gellilifdy, Sir y Fflint.

16.06.2025 15:27 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 5    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Geiriadur i gadwโ€™r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg
YouTube video by Y Ganolfan Geltaidd / CAWCS Geiriadur i gadwโ€™r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg

Diolch iโ€™r Athro Ann Parry Owen am ddarlith Oโ€™Donnell arbennig iawn wythnos ddiwethaf. Gallwch wylio recordiad ar ein sianel YouTube @collen105.bsky.social @geiriadur.bsky.social
youtu.be/cN8j9KZS-Dc

12.06.2025 13:37 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 6    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image Post image

๐ŸŽ™๏ธ Episode 1 of Nรญ hansae is out now!! Listen on Apple Podcasts, Spotify or your browser (www.dias.ie/series/ni-ha...), or watch on YouTube (youtu.be/HlHNUIfo8Co) ๐ŸŽง
โžก๏ธ Prof. Ruairรญ ร“ hUiginn tells us all about the School of Celtic Studies @dias.ie! He also announces some pretty cool news ๐Ÿ‘€

13.06.2025 07:20 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 2
Post image

Gair y dydd: GEIRIADUR www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... gair sy'n digwydd am y tro cyntaf yng ngeiriadur anferth Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems o Drefriw (1604-7) ac a fathwyd ganddo ef. Treuliodd ei oes gwaith yn copรฏo hen destunau o lawysgrifau gan gasglu tystiolaeth ar gyfer ei eiriadur

04.06.2025 08:03 โ€” ๐Ÿ‘ 8    ๐Ÿ” 4    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Job alert: 10-month position as Lecturer/Assistant Professor in the Maynooth School of Celtic Studies!
Please note: The closing date for applications is ๐Ÿ๐Ÿ– ๐‰๐ฎ๐ง๐ž; I will have the error on the website corrected ASAP.

30.05.2025 15:19 โ€” ๐Ÿ‘ 16    ๐Ÿ” 18    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Preview
Dei Tomos - Geiriadur hanesyddol, cerddi o'r canolbarth a helyntion Beca yn ysbrydoli awdur - BBC Sounds Ann Parry Owen sy'n olrhain ei hymchwil i eiriadur Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems, Trefriw.

Bydd Ann Parry Owen (un o Olygyddion Hลทn GPC) yn trafod ei gwaith yn trawsgrifio geiriadur Thomas Wiliems (1604-7) ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru nos yfory am 18:00 (neu gallwch wrando nawr ar y recordiad hwn: bbc.co.uk/sounds/play/... )

02.06.2025 11:40 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: HOYWDO gorchudd (to) hardd (hoyw) www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...

Hen air cyfansawdd a ddefnyddiodd Dafydd ap Gwilym i ddisgrifio gorchudd hardd o wlith, a gair perffaith i ddisgrifioโ€™r carped hyfryd hwn o lygaid y dydd, ger swyddfeydd GPC heddiw.

13.05.2025 11:22 โ€” ๐Ÿ‘ 4    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

"Peidiwch รข siarad fel cawod o genllysg o amgylch ei glustiau yn barhaus" a "cofiwch fod caniatรขd i ddynion rwgnach am goleri eu crysau".
Cyngor i ferch ar fin priodi (Y Gymraes, 1850).

11.05.2025 09:54 โ€” ๐Ÿ‘ 0    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

๐Ÿ“ขDarlith Oโ€™Donnell 2025 Oโ€™Donnell Lecture
๐Ÿ—“05/06/25 ๐Ÿ•”5.00pm
๐Ÿ“@LLGCymru & Zoom
๐Ÿ—ฃAnn Parry Owen
โ€˜Geiriadur i gadw'r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems (1545/6อโ€“c.1622) a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraegโ€™
๐ŸŽงWelsh language lecture with translation.
@collen105.bsky.social @geiriadur.bsky.social

07.05.2025 12:34 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 10    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 1
Post image

Gair y dydd: banadl www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... "Melynach oedd ei phen na blodau y banadl" - disgrifiad awdur y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen o harddwch trawiadol Olwen.

Llyfr Coch Hergest, Jesus 111, 204r, yn Digital Bodleian, digital.bodleian.ox.ac.uk

07.05.2025 08:21 โ€” ๐Ÿ‘ 5    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 1

Bore da Craig! Roedd yn enw newydd i mi hefyd - gwelwch yma www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r cofnod cynharaf o'r enw yn @geiriadur.bsky.social yn dod o lyfr H.E. Forrester (1907), ac fe gasglodd ef enwau pysgod drwy siarad gyda physgotwyr yng ngogledd Cymru. Mae'n siลตr bod yr enw yn hen.

05.05.2025 08:10 โ€” ๐Ÿ‘ 0    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

MORGI MAWR - yr enw Cymraeg ar y siarc (Lamna nasus) a fu'n ymweld ag Aberystwyth yn ddiweddar.

Mae'n debygol fod yr enw Saesneg PORBEAGLE yn dod o'r iaith Gernyweg: o porth + bugel, felly "bugail y porthladd / harbwr'.

04.05.2025 08:02 โ€” ๐Ÿ‘ 11    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 1
Post image

Enw arall ar Fai oedd Cyntefin "dechrau haf".

Mehefin yw canol haf, Gorffennaf yw gorffen-haf. Gwnewch y gorau o bob diwrnod braf!

Cyntefin ceinaf amser:
Dyar adar, glas calledd.
(Llyfr Du Caerfyrddin, 12ganrif)

(=Mai yw'r amser harddaf: Yr adar yn soniarus a'r llwyni'n wyrdd)

01.05.2025 10:26 โ€” ๐Ÿ‘ 11    ๐Ÿ” 6    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Esboniad Thomas Evans, Hendreforfudd, Glyndyfrdwy, o sut mae'r eclips yn gweithio - Peniarth 187 ysgrifennwyd 1596 @ArchifauLLGC @llawysgrifau #hoffysgrifydd

24.04.2025 19:04 โ€” ๐Ÿ‘ 13    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Gair y dydd: tafod www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Yn ogystal รข'r organ yn y geg syโ€™n anhepgor ar gyfer siarad a blasu, gall gyfeirio hefyd at iaith a geiriau. A fyddwch chiโ€™n rhoi โ€˜pryd o dafodโ€™ i rywun weithiau, yn dweud y drefn wrthynt?

16.04.2025 09:03 โ€” ๐Ÿ‘ 4    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Logo of the Dublin Insitute for Advanced Studies

Logo of the Dublin Insitute for Advanced Studies

Folรบntas - Vacancy
Comhaltacht Uรญ Aimhirgรญn - Bergin Fellowship
Comhaltacht 5 bliana รญ seo do thaighdeoir i dtรบs a rรฉime
This is a 5-year fellowship for an early-career researcher.
Tuilleadh eolais - Details:
www.dias.ie/bergin-fello...
#DIASdiscovers

11.04.2025 12:20 โ€” ๐Ÿ‘ 15    ๐Ÿ” 13    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

What do Ogam-Irish MUCOI, Old Irish moccu "belonging to the kin-group" and the Pictish boar from Dores have to do with each other?
Read it all up in my OG(H)AM-project blog for April 2025: ogham.glasgow.ac.uk/index.php/20...

09.04.2025 14:37 โ€” ๐Ÿ‘ 54    ๐Ÿ” 16    ๐Ÿ’ฌ 2    ๐Ÿ“Œ 0

@collen105 is following 20 prominent accounts