Cymraeg i bawb's Avatar

Cymraeg i bawb

@dailywelsh.bsky.social

Yn helpu siaradwyr newydd a Chymry profiadol i gwrdd รข'i gilydd dan yr Awyr Las! Helping new and experienced Welsh speakers to meet each other under the Blue Sky! #Cymraeg #Dysgu #Sgwrs cydsiarad.com/amdanom-ni

841 Followers  |  283 Following  |  280 Posts  |  Joined: 05.09.2024  |  2.2934

Latest posts by dailywelsh.bsky.social on Bluesky

Post image

๐ŸŽฅOed yr Addewid yn cael ei dangos yn Galeri Caernarfon (neithiwr a heno) a Sinemaes yn @eisteddfod.cymru Wrecsam. Y cyfarwyddwr a'r awdur, Emlyn Williams, sy'n edrych yn รดl ar hanes ffilm syโ€™n dal yn berthnasol heddiw, bron chwarter canrif wedi iddi gael ei dangos gyntaf. Rhifyn Mai BARN.

14.05.2025 09:27 โ€” ๐Ÿ‘ 5    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Post image

Nos Iau | Thursday night

Noson Lawen | An evening (well, an hour) of etertainment!

Rhad ac am ddim ar Zoom | Free on Zoom

Gyda | With

Mererid Hopwood ac Emyr Wyn!

Hoffwch y post hwn i gael y ddolen Zoom ar neges breifat
Like ths post to get the Zoom link by private message

13.05.2025 07:55 โ€” ๐Ÿ‘ 5    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Cyfle olaf!

Noswaith byth gofiadwy o gomedi Cymraeg yn dechru am 7 heno.

Hoffwch y post hwn (neu'r gwreiddiol) i gael y ddolen! Wna'i eu postio nhw trwy neges bersonol ychydig cyn 7.

30.04.2025 16:19 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Cofiwch: Mae'r noson #Comedi #Cymraeg fory! Hoffwch y post, neu ddilynwch y cyfarwyddiadau yn y poster er mwyn cael doeln i'r alwad Zลตm.

Bydd hi'n wledd! #yagym

29.04.2025 09:53 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0
Y Caffi Bar Cymraeg yn cyflwyno:

Noson Gomedi ar Zoom. 19:00 BST, Nos Fercher30 Ebrill 2025

Gyda:
Eleri Morgan
Hywel Pitts,
Aled Richards
Mel Owen
Dan Thomas
Steffan Alun
Fflur Pierce
MC Siรดn Owen

Ebostiwch: h r o b i s c h at gmail.com am fanylion ymuno

Y Caffi Bar Cymraeg yn cyflwyno: Noson Gomedi ar Zoom. 19:00 BST, Nos Fercher30 Ebrill 2025 Gyda: Eleri Morgan Hywel Pitts, Aled Richards Mel Owen Dan Thomas Steffan Alun Fflur Pierce MC Siรดn Owen Ebostiwch: h r o b i s c h at gmail.com am fanylion ymuno

Ffansio bach o gomedi #Cymraeg? Heb adael y tลท?

Bydd 8 o gomediwyr yn rhoi sioe a hanner ar Zoom, Nos Fercher 30ain Ebrill. Mynediad am ddim (wel, mae yn eich cartref chi eich hunan...)

Er mwyn manylion ymuno trwy neges bersonol, hoffwch y post

Ailbostiwch, os gwelwch yn dda.

15.04.2025 11:28 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 3    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 2
Post image

Lansio 'Elan', Mai 17eg gyda...

Band llawn ๐ŸŽธ
Pedwarawd llinynnol Mavron Quartet ๐ŸŽป
Set byw @laurajmartinuk.bsky.social ๐Ÿชˆ
Sinema trochol 360ยฐ Cultvr Lab ๐Ÿ“ฝ๏ธ
Tirluniau Cwm Elan ๐Ÿ”๏ธ
Marsiandรฏaeth @bubblewrapcollective.co.uk ๐Ÿ’ฟ

Bachwch docyn cyn iddyn nhw gyd fynd! ๐ŸŽŸ๏ธ

www.ticketsource.co.uk/cultvrlab/th...

14.03.2025 09:32 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 5    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Pwynt diddorol - ti'n gweud bod aelodau unigol y blaid Lafur, hyd yn oed mwyafrif eu haelodau Senedd, efallai yn credu yn nyfodol y Gymraeg, ond mae'r Blaid Lafur ei hunan yn gwrthod hynny.

Dw i'n gweld hynny yn bwynt teg iawn.

08.04.2025 09:16 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Sa i'n siwr. Dw i'n meddwl bod rhai o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru - fel Jeremy Miles - wir am weld newid, a datblygiad y Gymraeg, ond mae'r cyd-bwyso di-ddiwedd rhwng Cymru a San Steffan, neu rwng hen Lafur a'r to iau yn llesteirio eu gwaith nhw.

06.04.2025 20:49 โ€” ๐Ÿ‘ 5    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0

Dechrau da byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg www.llyw.cymru/comisiwn-cym... ond mae'r @prifweinidog.gov.wales wedi gwrthod gwneud hynny hyd yn hyn golwg.360.cymru/newyddion/21...

06.04.2025 13:51 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Oes yna rywun sydd yn credu y bydd y llywodraeth yn llwyddo i greu / cynnal miliwn o siaradwyr erbyn 2050?

Beth ลทch chi'n meddwl bydd anfen er wmyn gwneud?

06.04.2025 11:38 โ€” ๐Ÿ‘ 2    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 1

Diolch @s4c.cymru am ddefnyddio Makedonia yn lle'r enw Saesneg. Dangos parch. Nawr am gรดl neu 2 i Gymru yn yr ail hanner! #peldroed

25.03.2025 20:46 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Cwestiwn da. Dw i ddim yn gallu meddwl am ddim un!

14.03.2025 19:57 โ€” ๐Ÿ‘ 8    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 2    ๐Ÿ“Œ 0

Galla' i ddychmygu! Waeth na chrensian creision neu pacedi o losin, fydden i'n meddwl - o leia mae hoe i gael ganddyn nhw!

14.03.2025 14:04 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Mae'n anodd gywbod mewn sefyllfa fel'na. Bosib bod rhywbeth fel ADHD arni (lle byddai eistedd yn dawel trwy berfformans yn amhosib, a'r ffรดn yn rhoi allfa i'w hegni afreolus).

Neu bosib bod hi'n rลตd...

14.03.2025 10:08 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0

Dim byd i weld yma: Jest pobl Saesneg eu hiaith yn dweud wrth Geiriadur Mirriam Webster bod 'y' weithiau yn llafariad.

Pwy ddysgodd llafariaid Saesneg fel "A E I O U *and sometimes Y*"?

#iaith #llafariaid

14.03.2025 09:42 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 2    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Poster Noson Lawen. 
Cymraeg. Sialc ar fwrdd du. Manylion: Nos Fercher 26 Mawrth am 7 yh, gyda gwestai arbennig, Owen "Cynefin" Shiers. 
English. Chalk on a blackboard. Details: Wednesday 26 March at 7 pm, with special guest, Owen "Cynefin" Shiers.

Poster Noson Lawen. Cymraeg. Sialc ar fwrdd du. Manylion: Nos Fercher 26 Mawrth am 7 yh, gyda gwestai arbennig, Owen "Cynefin" Shiers. English. Chalk on a blackboard. Details: Wednesday 26 March at 7 pm, with special guest, Owen "Cynefin" Shiers.

Cofiwch, bydd cydsiarad.com/noson-lawen ar y 26ain o Fawrth am 19:00 GMT, gydag Owen Shiers, prifleisydd cynefinwales.bandcamp.com yn westai arbennig.

12.03.2025 11:37 โ€” ๐Ÿ‘ 4    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Da iawn @hwinthewest.bsky.social! Mae'n bwysig iawn ddefnyddio'r Gymraeg sy gyda chi. Hyd yn oed ar lefel Sylfaen, mae Cymraeg 'bob dydd' ddefnyddiol gyda ti. Os wyt ti'n arfer ar siarad Cymraeg nawr, byddi di yn ychwanegu ati yn hawdd (add to it) wrth i ti ddysgu rhagor.

#SiaradwrNewydd

12.03.2025 11:22 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Mae siarad Cymraeg gydag anifeiliaid yn ffordd wych i ddefnyddio Cymraeg o flaen y di-Gymraeg heb bechu neb. (Dw i byth wedi defnyddio'r Saesneg gyda fy mhlant na fy nghi, felly mae'n naturiol i fi gyda phlant a chลตn pobl eraill)

Diolch, @rhitta-cawr7.bsky.social !

12.03.2025 11:15 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Cwestiwn cyffredinol (plรฎs ail-bostiwch i ni gyd glywed gan fwy o bobl):

Ydych chi yn siarad Cymraeg gyda'r di-Gymraeg? ee dw i'n defnyddio shwmae a diolch trwy'r amser, ac yn defnyddio Cymraeg syml gyda pobl dan tua 20 (dylen nhw wybod peth o'r ysgol wedi'r cyfan!). Beth amdanoch chi?

07.03.2025 15:20 โ€” ๐Ÿ‘ 7    ๐Ÿ” 5    ๐Ÿ’ฌ 6    ๐Ÿ“Œ 0

Cwestiwn da. Dw i'n meddwl am frawddegau nawr, a dw i ddim wedi ffeindio un lle byddai un neu'r llall yn well neu'n waeth. Felly 'paid becso' yw'r ateb gorau galla i roi i ti, sori!

Yn dechnegol 'y tro hwn' dylai hi fod, ond pedant go iawn byddai yn poeni am hynny wrth siarad.

05.03.2025 16:16 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0

Mae deall yn rhan hanfodol o sgwrsio, ond yn beth anodd tu hwnt i'w ddysgu. Mae'n cymryd amser, amynedd ac ymroddiad. Llongyfarchiadau, a joia gweddill dy daith.

hanfodol = essential
amynedd = partience
ymdoddiad = dedication

05.03.2025 12:42 โ€” ๐Ÿ‘ 4    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0

Ydy, ac mae'n benderfyniad sydd wedi ei wneud am reswm aneglur (i ni'r cyhoedd, hynny yw), gyda goblygiadau niweidiol sydd ddim hyd yn oed ar radar y BBC yn Llundain.

Diddorol darllen yn Nation taw Andy Bell o Awstralia oedd wedi tynnu sylw at y newid gyntaf. Mae hynny'n adrodd cyfrolau!

05.03.2025 09:16 โ€” ๐Ÿ‘ 0    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Tybed beth sydd wrth wraidd cau BBC Sounds yn rhyngwladol? Ai y gallu i wethu cynnwys? Neu fod rhyw gost ychwanegol i'r wasanaeth? Dw i ddim yn gweld 'fydd modd gwrando mewn 'ffyrdd amgen' yn ateb da iawn, gan taw hap a damwain fydd argaeldd Radio Cymru wedyn. #RadioCymru

04.03.2025 11:52 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 1    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0
Preview
Tree Age - Royal Forestry Society

Oes gyda chi goed hynafol yn eich bro? Mae derwen gyda ni yn Llandysul sydd yn deillio o ddiwedd y 1700au - felly cyn y chwyldro diwydiannol, tua'r un cyfnod รข genefigaeth Mary Jones y Bala.

Sut mae mesur oedran coeden? Gweler rfs.org.uk/learning/tre...

#gwyddoniaeth

28.02.2025 08:48 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Am newyddion trist! Roedd Sel yn un o'r bobl 'na oedd yn amhosib i'w anwybyddu, mor llawn egni a syniadau, a wastad รข rhyw berl o annogaeth i'w gynnig pan oedd ei angen.

Colled genedlaethol, heb sรดn am y golled i'w anwyliaid.

26.02.2025 09:48 โ€” ๐Ÿ‘ 4    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Mae tywydd braf i'w groesawu, boed 'gwanwyn ffug' neu beidio!

Joia'r heulwen cgynnar yma!

26.02.2025 09:43 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Ie - gyda'r newidiadau yn y Tลท Gwyn a'r holl gythrwfl yn sgil hynny, mae'n gyfnod prysur a 'diddorol' i chi yn America. Diddorol fel yn y felltith tsieiniaidd (honedig) "Boed i chi fyw mewn cyfnod diddorol"...

Gobeithio nad yw pethau yn effeithio'n ormodol arnat ti!

26.02.2025 09:41 โ€” ๐Ÿ‘ 1    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 1    ๐Ÿ“Œ 0

Mae werth cael pip ar y lluniau yma o'r sรชr. Dw i'n moyn cael fy nhelesgรดp i allan eto nawr. #gwyddoniaeth

25.02.2025 11:00 โ€” ๐Ÿ‘ 6    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

*gan ychwanegu dy bost at y ffrwd #gwyddoniaeth

25.02.2025 10:51 โ€” ๐Ÿ‘ 3    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

Ie - tafod yn boch oedd fy sylw (sydd byth yn dod drosodd ar y we - dylen i wybod yn well erbyn hyn!).

Tybed a fyddai dadansoddiad llinell wrth linell yn ffeindio bod unrhyw gliwiau wedi eu cymryd gan waith y gwyddonwyr? Ond mae sรดn am AI yn gwneud hyn mewn sawl maes, a da o beth yw hynny.

25.02.2025 10:50 โ€” ๐Ÿ‘ 0    ๐Ÿ” 0    ๐Ÿ’ฌ 0    ๐Ÿ“Œ 0

@dailywelsh is following 18 prominent accounts