Aled Biston's Avatar

Aled Biston

@aledbiston.bsky.social

📱 Newyddiadurwr Digidol/Digital Journalist Newyddion S4C. Stori? 📩aled.lloyd-biston@s4c.cymru

156 Followers  |  125 Following  |  9 Posts  |  Joined: 21.11.2024  |  1.6658

Latest posts by aledbiston.bsky.social on Bluesky

Preview
Aled Biston's Mo Space Aled's Motivation: Helo bawb, blwyddyn yma byddaf yn shafio fy marf ac yn tyfu mwstash er mwyn codi arian i Movember (neu Tashwedd!). Bydd yr arian yn mynd tuag at geisio atal hunanladdiad ac ymchwil ...

This year I’ll be shaving my beard to raise money for Movember and improving mental health resources for men. Any donations are greatly appreciated. Diolch!

movember.com/m/aledbiston...

31.10.2025 12:04 — 👍 0    🔁 0    💬 0    📌 0
Preview
Aled Biston's Mo Space Aled's Motivation: Helo bawb, blwyddyn yma byddaf yn shafio fy marf ac yn tyfu mwstash er mwyn codi arian i Movember (neu Tashwedd!). Bydd yr arian yn mynd tuag at geisio atal hunanladdiad ac ymchwil ...

Blwyddyn yma fe fyddai’n shafio’r barf i godi arian tuag at Movember ac at wella adnoddau iechyd meddwl i ddynion. Bydd unrhyw gyfraniad yn cael ie werthfawrogi’n fawr. Diolch!
movember.com/m/aledbiston...

31.10.2025 12:04 — 👍 0    🔁 0    💬 0    📌 0
Preview
Torf yn croesawu Ruby Evans gartref ar ôl creu hanes ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd Fe gafodd Ruby Evans groeso cynnes wrth ddychwelyd i Gymru ddydd Mercher yn ar ôl ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd

Darllenwch fwy yma:

29.10.2025 13:54 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Croesawu Ruby Evans gartref ar ôl creu hanes ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd Fe gafodd Ruby Evans groeso cynnes wrth ddychwelyd i Gymru ddydd Mercher yn ar ôl ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd

🤸🏼‍♀️ ‘Roedd e’n rili sbesial i weld gymaint o bobl’

Ar ôl ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd fe gafodd Ruby Evans groeso cynnes wrth ddychwelyd i Gymru fore dydd Mercher. newyddion.s4c.cymru/article/31080

29.10.2025 22:56 — 👍 4    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Pryder trefnwr angladdau am ymddygiad gyrwyr Mae trefnwr angladd yn dweud bod y "cynnydd mewn pobl" sydd yn torri ar draws cerbydau angladd yn "dorcalonnus"

‘Ni’n poeni bod e'n digwydd mwy a mwy rheolaidd’

Mae trefnwr angladdau yn dweud bod y ‘cynnydd mewn pobl’ sydd yn gyrru rhwng rhes o gerbydau angladd yn ‘dorcalonnus’. newyddion.s4c.cymru/article/31064

29.10.2025 21:01 — 👍 4    🔁 2    💬 0    📌 0
Video thumbnail

🌟🤸‍♀️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 ‘Diolch i bawb am y gefnogaeth’

Ar ôl ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd fe gafodd Ruby Evans groeso cynnes wrth ddychwelyd i Gymru fore dydd Mercher

29.10.2025 12:52 — 👍 4    🔁 1    💬 1    📌 0
Preview
Cyn AS wedi gadael ei swydd ar ôl i sylwadau ar-lein effeithio arni hi a'i theulu Mae'r cyn Aelod Seneddol Kirsty Williams wedi siarad am ei phenderfyniad i adael ei swydd ar ôl i sylwadau amdani ar-lein "effeithio arnaf i a fy nheulu."

🗣️ 'Doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy nheulu drwyddo mwyach.'

Mae'r cyn Aelod o'r Senedd, Kirsty Williams, wedi siarad yn emosiynol am ei phenderfyniad i adael ei swydd ar ôl i sylwadau ar-lein effeithio arni hi a'i theulu.

28.10.2025 06:56 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Video thumbnail

🤯⚽️ 'Pwy ‘sa’n meddwl ‘sa hogan o Drawsfynydd yn seinio i Manchester United yn 17 oed?'

Mae'r pêl-droediwr Mared Griffiths wedi dweud iddi 'wireddu breuddwyd' ar ôl arwyddo cytundeb proffesiynol gyda Manchester United dros yr haf.

18.10.2025 08:10 — 👍 6    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Ennill Cwpan y Byd gyda Chymru yn 71 oed yn 'uchafbwynt gyrfa' Mae un o chwaraewyr tîm pêl-droed dros 70 Cymru wedi dweud bod ennill Cwpan y Byd yn "uchafbwynt fy ngyrfa"

Mwy yma 👇 newyddion.s4c.cymru/article/30641

04.10.2025 08:39 — 👍 1    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Cymro wnaeth erfyn am gael mynd i Gaza yn benderfynol o gyrraedd yno ar gwch Dyw bygythiad ymosodiadau gan Israel "ddim yn mynd i atal" Cymro sydd yn teithio ar gwch i Gaza er mwyn darparu cefnogaeth ddyngarol

⛴'Mae'r ymosodiadau, bygythiadau, trais, dyw hynny ddim mynd i ein hatal o gwbl'.

Mae Cymro o Abertawe yn un o'r rhai sydd ar lynges sy'n ceisio teithio i Gaza i roi cefnogaeth ddyngarol.

newyddion.s4c.cymru/article/30557

30.09.2025 07:21 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio 'am y tro olaf' 20 mlynedd ers eu sefydlu, mae'r band Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio "am y tro olaf"

🎸 ‘Dwi isho i bobl cofio bod ni wedi joio’n hunain’

Mae'r band Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio ‘am y tro olaf’, a hynny 20 mlynedd ers cael ei ffurfio

29.09.2025 10:02 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Trin clefyd Huntington's yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn 'oleuni yn y tywyllwch' Mae Cymraes sydd yn byw gyda Huntington's wedi disgrifio'r driniaeth lwyddiannus cyntaf o'r clefyd fel "goleuni yn y tywyllwch."

🕯️Mae Cymraes sydd yn byw gyda Huntington's - un o'r clefydau "mwyaf creulon a dinistriol" - wedi disgrifio'r driniaeth lwyddiannus gyntaf o'r clefyd fel "goleuni yn y tywyllwch."

newyddion.s4c.cymru/article/30491

26.09.2025 06:02 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
'Mae pawb yn wahanol': Cynnig 'platfform i bawb' yn y byd ffasiwn Mae un o gantorion o gyfres Y Llais yn dweud ei fod yn "bwysig rhoi llwyfan" i bawb yn y byd ffasiwn

‘Ma’ pawb yn wahanol, ni angen dathlu unigrwydd pawb’

Mae un o gantorion cyfres Y Llais, Liam J Edwards yn dweud ei fod yn ‘bwysig rhoi llwyfan’ i bawb yn y byd ffasiwn

23.09.2025 20:01 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Post image

⚽👕 ‘Roedd yr ymateb yn hollol annisgwyl - yn wallgof os unrhyw beth’ newyddion.s4c.cymru/article/30391

21.09.2025 18:49 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Mr Blobby, Boca Juniors, pysgod a sglodion: Citiau trawiadol CPD Llanilltud Fawr Mae'r clwb ym Mro Morgannwg wedi denu sylw rhyngwladol am eu dewis unigryw o gitiau lliwgar ar gyfer eu golwyr.

⚽ O Mr Blobby i bysgod a sglodion - mae citiau lliwgar golwyr Clwb Pêl-droed Llanilltud Fawr wedi denu sylw ledled y byd

21.09.2025 13:38 — 👍 1    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Taith farchogaeth i gofio am 'fenyw arbennig' a fu farw mewn gwrthdrawiad Bydd taith farchogaeth yn cael ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul i gofio am "fenyw ifanc arbennig" 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad

🐴 ‘Byddai Sally wedi caru gwneud hyn, roedd hi wrth ei bodd gyda cheffylau’

Bydd taith farchogaeth yn cael ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul i gofio am ‘fenyw ifanc arbennig’ 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad

21.09.2025 08:03 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
'Hynod o drawmatig': Disgyn ar stryd yn cael effaith enfawr ar fywyd menyw o Faesteg Ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio, mae menyw yn ei 60au yn dweud bod hi "dal yn cael ei heffeithio" ar ôl syrthio wrth groesi'r ffordd

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio, mae menyw yn ei 60au yn dweud ei bod hi 'dal yn cael ei heffeithio' ar ôl syrthio wrth groesi'r ffordd

18.09.2025 19:33 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Post image

❤️🇺🇦 ‘Yr unig beth 'dw i eisiau yw eu bod nhw'n agos ata i, fel bod ni'n gallu bod 'nôl gyda'n gilydd’
newyddion.s4c.cymru/article/30309

16.09.2025 19:38 — 👍 4    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Gobaith menyw ifanc o Wcráin y bydd ei theulu yn ymuno â hi yng Nghymru Tair blynedd ers ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin mae menyw ifanc o Kyiv gobeithio aduno gyda'i mam a'i brawd yng Nghymru

'Rydym yn siarad bob dydd...Ond dyw hynny ddim yr un peth a'u gweld wyneb yn wyneb.'

Dair blynedd ers ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, mae menyw ifanc o Kyiv yn gobeithio y bydd ei mam a'i brawd yn ymuno â hi yng Nghymru.

newyddion.s4c.cymru/article/30309

16.09.2025 07:06 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
'Bychan ffein': Cynnal gêm pêl-droed i gofio'r cyd-yrrwr rali Dai Roberts Bydd gêm pêl-droed yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn i gofio'r cyd-yrrwr rali o Sir Gâr, Dai Roberts

⚽️🏁 'O’dd yn gymaint o fychan ffein, ti ddim yn gweld pobl fel Dai yn aml.'

Bydd gêm bêl-droed yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn i gofio'r cyd-yrrwr rali o Sir Gâr, Dai Roberts.

13.09.2025 07:48 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Video thumbnail

🐱🎯 Y gath yn rhoi cymorth i’r Ferret?

Mae Jonny Clayton wedi cael help llaw gan ei gath, Leila wrth ymarfer taflu ei ddartiau

09.09.2025 09:55 — 👍 3    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Taith 400 milltir cyn-filwr i gofio milwyr o Flaenau Gwent a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf Mae cyn-filwr o Frynmawr wedi cychwyn ar daith 400 milltir i gofio milwyr o Flaenau Gwent fu farw ym Mrwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf

🚶‍♂️'Doeddwn i ddim yn gwybod am yr hyn roedd y milwyr wedi gwneud, aberthu cymaint.'

Mae cyn-filwr wedi cychwyn ar daith 400 o filltiroedd i gofio milwyr o Flaenau Gwent a fu farw ym Mrwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

newyddion.s4c.cymru/article/30167

08.09.2025 07:19 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
'Angen gwneud mwy' i helpu rhieni gyda chostau ysgol Mae prif weithredwr 'banc bob dim' Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "wneud mwy" i gefnogi rhieni gyda chostau ysgol

Mae prif weithredwr 'banc bob dim' Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "wneud mwy" i gefnogi rhieni gyda chostau ysgol

newyddion.s4c.cymru/article/30062

01.09.2025 06:08 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Her seiclo i godi meinciau er cof am gyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Cymry Caerdydd Mae aelod o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi cwblhau her seiclo er mwyn codi arian ar gyfer meinciau sy'n cofio eu cyn-chwaraewyr "sydd ddim gyda ni bellach"

❤️ ‘Eistedd ar y meinciau, gwylio'r gemau a chofio'r rhai sydd ddim gyda ni bellach gyda chwrw bach’

Mae aelod o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi cwblhau her seiclo er mwyn codi arian ar gyfer meinciau er cof am gyn-chwaraewyr

31.08.2025 11:13 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
O'r Barri i Kazakhstan drwy 12 gwlad i wylio Cymru Mae'r holl daith wedi bod yn brofiad anhygoel iddo, meddai John McAllister.

🌍 ‘Profiad anhygoel’

Mae John McAllister wedi teithio 5,000 milltir drwy 12 gwlad i wylio tîm dynion Cymru yn chwarae yn Kazakhstan am y tro cyntaf

30.08.2025 10:07 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Non Parry: 'Torri calon' gweld oedolion heb ddiagnosis awtistiaeth yn 'cosbi eu hunain' Mae Non Parry, o’r grŵp pop Eden yn dweud bod ei "chalon yn torri" wrth weld oedolion heb ddiagnosis awtistiaeth yn "cosbi eu hunain"

💜 'Mae o’n chwalu bywydau pobl, gwastraffu bywydau nhw yn meddwl mai nhw sydd wedi torri.'

Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw'r mwyafrif o bobl dros 40 oed sydd ag awtistiaeth wedi derbyn diagnosis.

newyddion.s4c.cymru/article/30027

29.08.2025 06:56 — 👍 2    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Agoriad cwest yn clywed fod Hefin David wedi marw 'o achosion annaturiol' Cafodd yr Aelod Seneddol, Hefin David ei ddarganfod yn farw gan ei chwaer ar ôl marw o "achosion annaturiol", clywodd cwest.

Mae cwest wedi clywed fod yr aelod o'r Senedd Hefin David wedi marw o ‘achosion annaturiol’

26.08.2025 08:18 — 👍 2    🔁 3    💬 0    📌 0
Preview
Gobeithio dychwelyd i Gymru i osgoi aflonyddu trawsffobig Yn ystod eu bywyd o ddydd i ddydd yn Ipoh, Malaysia mae Jien Yoong Teh yn gorfod cuddio pwy ydyn nhw go iawn

‘Rhaid i fi ddychwelyd i rywle nad ydw i'n teimlo'n ddiogel’
 
Mae person trawsryweddol o Malaysia yn gobeithio dychwelyd i Gymru er mwyn osgoi aflonyddu trawsffobig yn eu mamwlad
 
Bu rhaid i Jien ddychwelyd i Malaysia wedi i'w fisa ddod i ben

25.08.2025 15:28 — 👍 2    🔁 2    💬 0    📌 0
Preview
Rhwydwaith Dynion Cymru: Angen 'lle diogel' i ddynion drafod iechyd meddwl Mae sylfaenydd grŵp Rhwydwaith Dynion Cymru yn dweud bod angen "lle diogel" i drafod iechyd meddwl

‘Nesi sylwi bod iechyd meddwl yn rili pwysig i ddynion’

Mae sylfaenydd grŵp newydd 'Rhwydwaith Dynion Cymru' yn dweud bod angen ‘lle diogel’ i ddynion drafod iechyd meddwl

19.08.2025 10:11 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0
Preview
Rygbi: Cynnal Cwpan y Byd yn Lloegr yn 'gyfle i dyfu' gêm y menywod ar lawr gwlad Mae cynnal Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod yn Lloegr yn rhoi "cyfle i dyfu" gêm y menywod ar lawr gwlad yng Nghymru

🏉 Mae cynnal Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod yn Lloegr yn 'gyfle i dyfu' gêm y menywod ar lawr gwlad yng Nghymru.

Dyna'r farn yng Nghlwb Rygbi Cymry Caerdydd ar drothwy'r bencampwriaeth.

16.08.2025 18:34 — 👍 1    🔁 1    💬 0    📌 0

@aledbiston is following 20 prominent accounts