Gair y Dydd: pentan geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Eos y Pentan yw teitl un o’r storïau byrion doniol a ysgrifennwyd gan W. J. Griffith o’r Henllys Fawr ger Aberffraw a gyhoeddwyd yn Storïau’r Henllys Fawr (1938). Bu farw W. J. Griffith ar y dyddiad hwn yn 1931.
07.10.2025 12:55 — 👍 3 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: bochgoch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Ansoddair da a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio plentyn iach a chanddo ruddiau cochion, neu am rywbeth a chanddo groen coch - fel yr afal. Digwydd y gair hefyd fel enw arall am yr egroesen a'r pabi coch.
06.10.2025 13:09 — 👍 6 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: sgrwmp geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - sef cawod drom o law. Rydym wedi profi sawl sgrwmp yn barod yr hydref hwn, gydag un arall ar y ffordd dros y penwythnos. Un enw arbennig am dywydd sgrympiog ar ddiwedd yr haf ac yn gynnar yn yr hydref yw sgrympiau codi tatws.
03.10.2025 12:57 — 👍 5 🔁 1 💬 0 📌 0
Doreen Roberts yn saethu â bwa
Gair y Dydd saeth www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Arf hirfain blaenllym, fel arfer o bren neu fetel, a saethir o fwa. Gair benthyg o'r Lladin sagitta.
Gan Gordon W. Powley, Parth cyhoeddus commons.wikimedia.org/wiki/File:Ar...
02.10.2025 08:41 — 👍 3 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: seiberdrosedd ‘gweithgarwch troseddol yn gysylltiedig â systemau cyfrifiadurol, y Rhyngrwyd, &c.’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
01.10.2025 10:40 — 👍 3 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: tafal geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae sawl gair am y ddyfais hon, e.e. tafal, clorian, mantol, ond beth fyddwch chi’n ddweud? Mae hefyd yn enw ar yr arwydd yng nghylch y Sodiac yr adeg hon o’r flwyddyn.
30.09.2025 13:16 — 👍 3 🔁 1 💬 0 📌 0
Llun o ddail aethnen ar gangen
Gair y Dydd aethnen www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Math o boplysen nodedig am ei dail crynedig, Populus tremula
Gan W.carter CC BY-SA 4.0 commons.wikimedia.org/wiki/File:Re...
29.09.2025 10:06 — 👍 4 🔁 0 💬 0 📌 0
Llun o blanhigyn brith ei ddail
Gair y Dydd brithliw www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Amliwiog, amryliw, cymysgliw, ysmotiog, brychlyd
Gan Judgefloro CC0 1.0 Universal commons.wikimedia.org/wiki/File:23...
25.09.2025 14:09 — 👍 3 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: CYFATHREBU geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., o cyfathr- (fel yn cyfathrach ‘perthynas’) + -ebu (fel yn hebu, gohebu ‘siarad’, &c).
Gair cwbl anhepgor bellach a fathwyd yn 1959 gan J.E. Caerwyn Williams, un o sylfaenwyr @yganolfangeltaidd.bsky.social a chyn Olygydd Ymgynghorol @geiriadur
24.09.2025 08:50 — 👍 8 🔁 5 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: tes Mihangel geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ydy’r tywydd heddiw yn ddechrau cyfnod o dywydd braf o gwmpas gŵyl Fihangel yr wythnos nesaf, y 29ain o Fedi? ‘Tes bach cyn gaeaf’ yn enw hyfryd arall.
23.09.2025 12:39 — 👍 3 🔁 0 💬 1 📌 0
Gair y dydd: dŵr llwyd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Yn dilyn y glaw trwm dydd Sadwrn diwethaf, dyma beth rwy’n ei alw'n ddŵr llwyd. Oes gennych chi enw arall am lif trwm o'r fath?
22.09.2025 11:37 — 👍 4 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y dydd: gwledd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... (yn yr ystyr ffigurol) - Rydym wedi cael gwledd o bapurau academaidd hynod o ddiddorol yn ystod cynhadledd Gorwelion @yganolfangeltaidd.bsky.social , gyda'r amrywiaeth o bynciau difyr yn cynnig digon inni gnoi cil arnynt.
19.09.2025 13:25 — 👍 4 🔁 1 💬 0 📌 0
Llun o'r Cadfridog Norton Schwartz â'i ddwrn yn yr awyr
Gair y Dydd dwrn www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llaw wedi ei chau’n dynn, llaw, palf, pawen; hefyd y darn hwnnw o erfyn (fel cleddyf ayb) y gafaelir ynddo, carn, said, cnap neu fwlyn (drws)
Hawlfraint 2013 United States Air Force
18.09.2025 10:39 — 👍 2 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: deugain ‘pedwar deg’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., wrth i’r gynhadledd ‘Gorwelion’ agor i ddathlu deugain mlwyddiant sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
17.09.2025 07:27 — 👍 11 🔁 2 💬 1 📌 0
Gair y Dydd: ERYR geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Enw ac iddo ystyron ffigurol yn cynnwys 'arwr' a 'thywysog'. Ar y dydd hwn yn 1400, cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru. Chwiliwch am y gair 'prince' yn adran Saesneg y Geiriadur i ganfod y cyfoeth o enwau Cymraeg am dywysog.
16.09.2025 09:19 — 👍 4 🔁 2 💬 0 📌 0
Gair y dydd: argoel geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dywedir bod gweld gwartheg yn gorwedd yn argoel neu'n arwydd o law - gwir oedd yn yr achos hwn!
15.09.2025 11:08 — 👍 4 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: gwe geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
A welsoch chi erioed y fath ryfeddod? Dyma rwydwaith main ysgafn a wëir gan y pryf copyn gan amlaf, ond mae'n debygol mai gwaith y lindys yw'r we hon! Mae'r gair 'lindyswe' yn y Geiriadur, ond 'cocoon' yw'r enw Saesneg arno.🐛
12.09.2025 10:35 — 👍 6 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800).
Englyn Dewi Emrys i'r gorwel:
Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod:
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.
11.09.2025 09:15 — 👍 8 🔁 4 💬 1 📌 0
Gair y dydd: corn y carw môr, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
neu Crithmum maritimum, llyseun maethlon a welir yn tyfu mewn mannau creigiog ar yr arfordir. Ers talwm fe’i cesglid yn yr haf a’i biclo mewn dŵr halen neu finag i’w gymryd dros y gaeaf. Enw arall arno yw ffenigl y môr.
10.09.2025 08:54 — 👍 4 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y dydd: llyfrwallgof geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - sef (person ac iddo) hoffter eithafol at lyfrau neu ysfa i hel llyfrau. Yn Saesneg, gelwir yr hoffter hwn yn 'bibliomania', a'r person o'r anian honno yn 'bibliomaniac'.
Ydych chi'n nabod rhywun llyfrwallgof?
09.09.2025 11:07 — 👍 3 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y dydd: buddugoliaeth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dathlu ennill Rali Ceredigion ddoe!
08.09.2025 12:13 — 👍 2 🔁 0 💬 0 📌 0
Llun o greigafr
Gair y Dydd creigafr www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Math o afr wyllt a’i chyrn yn crymu'n ôl, gafr y graig, alpafr
CC BY-SA 4.0 Isiwal commons.wikimedia.org/wiki/File:Al...
04.09.2025 10:30 — 👍 5 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: cofbin ‘memory stick, pen drive’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Un o’r geiriau newydd a ychwanegwyd yn ddiweddar.
03.09.2025 11:09 — 👍 5 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: pibydd coesgoch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ai dyna’r enw fyddech chi’n ei ddefnyddio am yr aderyn hwn? Neu beth am ‘coesgoch’ yn unig? Mae hwnnw dros ddwy ganrif yn hŷn yn ôl dyfyniadau’r Geiriadur.
02.09.2025 12:32 — 👍 4 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: egroes geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'ffrwyth y rhosyn gwyllt'. Mae'r Geiriadur yn nodi enwau eraill arnynt, sef afalau'r bwci, mwcog, ogfaen, a bochgoch. Beth yw eich enw chi amdanynt?
01.09.2025 12:25 — 👍 5 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: corbwmpen geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma'r enw Cymraeg am 'courgette', sef math bychan o bwmpen a goginir ac a fwyteir fel llysieuyn. Bathwyd yr enw hwn yn 1995 gan olygyddion Geiriadur yr Academi.
Ydych chi'n gyfarwydd â'r enw hwn?
29.08.2025 10:40 — 👍 5 🔁 0 💬 0 📌 0
Braf ymweld â @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr...
27.08.2025 08:33 — 👍 7 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y dydd: arfordir geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Rydym yn ffodus o'r llwybrau sy'n ein caniatáu i fwynhau arfordir hardd ac amrywiol Cymru - manteisiwch at y tywydd braf i'w cerdded. www.walescoastpath.gov.uk/places-to-go...
28.08.2025 09:16 — 👍 3 🔁 0 💬 0 📌 0
Gair y dydd: HUN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... "Byr ei hun, hir ei hoedl", meddai'r hen ddihareb Gymraeg, sy'n gysur i'r rhai ohonom sy'n dioddef yn achlysurol o anHUNedd, neu ddiffyg cwsg.
27.08.2025 07:50 — 👍 5 🔁 1 💬 0 📌 0
Gair y Dydd: mesog geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – llawn mes, fel y goeden hon. Diddorol gweld mai 29 Awst yw gŵyl Ieuan y Moch sef dechrau’r cyfnod pryd y gellid gadael i foch fynd i goedwigoedd i fwyta mes geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
26.08.2025 13:00 — 👍 4 🔁 1 💬 0 📌 0
Research into the Celtic languages, literatures and cultures.
Taighde ar na teangacha Ceilteacha agus na litríochtaí agus na cultúir a bhaineann leo. 🔗 https://www.dias.ie/celt/
Golygiad digidol o’r cerddi Cymraeg a briodolir i Myrddin. 🧙♂️ Digital edition of the Welsh-language poetry attributed to Merlin.
myrddin.cymru
AHRC | Ysgol y Gymraeg (Caerdydd) | CAWCS | Prifysgol Abertawe
https://gtr.ukri.org/projects?ref=AH%2FW00071
Cymru Asturies. awdur Het Wellt a Welis. natur bwyd
Cyfrif swyddogol y Grid Digidol Cymraeg (DigiGrid - https://digigrid.cymru/cy/). Cyfrif wedi’i gysylltu â @corcencc.bsky.social a @gdc-wdg.bsky.social
Official account of the Welsh Digital Grid (DigiGrid – www.digigrid.cymru). Account linked with @freetxt
Cymraes. Barddoniaeth ganoloesol a geiriadura. Athro. Hoffi dysgu pethau newydd. / Welsh lexicography and medieval poetry. @geiriadur @ganolfan
Geiriadura.cymru
Yn helpu siaradwyr newydd a Chymry profiadol i gwrdd â'i gilydd dan yr Awyr Las!
Helping new and experienced Welsh speakers to meet each other under the Blue Sky!
#Cymraeg #Dysgu #Sgwrs
cydsiarad.com/amdanom-ni
https://bylines.cymru
A participatory citizen journalism community and publication for all in, from, and in love with Wales. Reach out to editor@bylines.cymru
A new cooperative national news media platform for Wales. Owned by you, serving you and the people of Wales. Want to learn more? Visit www.talkingwales.co.uk
Project lead Huw Marshall huwmarshall.bsky.social Email post@talking.wales
Anghynhadledd i bobl sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru
The unconference for people interested in government & public services in Wales 🏴
https://www.govcamp.cymru/
Yn ymchwilio i gyfraith, llywodraeth, gwleidyddiaeth a chyllid cyhoeddus Cymru
Researching the law, government, politics & public finances of Wales
official Bluesky account (check username👆)
Bugs, feature requests, feedback: support@bsky.app