Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD's Avatar

Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD

@eglwysdewisant.bsky.social

Yr ydym yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru yng nghanol dinas Caerdydd sy'n addoli ac yn gwasanaethu Duw trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso a lle i bawb sydd yn ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy'n chwilio am gartref ysbrydol.

13 Followers  |  18 Following  |  11 Posts  |  Joined: 14.07.2025  |  1.6623

Latest posts by eglwysdewisant.bsky.social on Bluesky

'Dyn ni wedi cyrraedd Sul olaf y flwyddyn eglwysig a Sul Crist y Brenin. Dyma fy hoff emyn ar y Sul arbennig hwn:

Dacw lofrudd ar ei aswy,
Dacw leidr ar ei dde;
Draw fe'i hoeliwyd yn y canol -
Brenin daear, brenin ne'!
Mi apeliaf
At yr orsedd ar y groes. WW Pantycelyn.

23.11.2025 07:37 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 1    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image

Ydych chi'n siaradwyr newydd ac yn chwilio am gyfle i siarad Cymraeg neu yn chwilio am gyfle i gwrdd Γ’ phobl newydd? Os felly, mae croeso i chi ddod i'n bore Coffi a Chlonc a gynhelir yn neuadd Eglwys Dewi Sant bore Sadwrn 15 Tachwedd rhwng 10.30am a chanol dydd. Bydd croeso mawr yn eich disgwyl.

14.11.2025 11:52 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 1    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0
Post image

Chwilio am gyfle i sgwrsio yn Gymraeg? Croeso i chi ymuno Γ’ ni yn ein Bore Coffi a Chlonc yn neuadd Eglwys Dewi Sant bore Sadwrn 18 Hydref 2025 rhwng 10.30am - 12.00pm. Gobeithio gweld chi yno!

15.10.2025 18:48 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image

Byddwn yn cadw'r Diolchgarwch yfory yn Eglwys Dewi Sant yfory, 12 Hydref gyda gwasanaeth o'r Cymun Bendigaid ar gΓ’n gyda'r Parchedig Elinor Talfan Delaney yn pregethu am 10.30am a'r Hwyrol Weddi ar gΓ’n am 6.00pm.

"Mae grasusau heb eu haeddu
Ar ein bwrdd o hyd yn llawn"

11.10.2025 12:41 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image

Os 'dych chi'n digwydd bod yng Nghaerdydd y bore 'ma, mae croeso i chi alw draw i Eglwys Dewi Sant am baned a sgwrs ac ymuno Γ’'n Coffi a Chlonc.

20.09.2025 08:22 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image Post image

Os 'dych chi'n hoffi her a hanes, bydd Eglwys Dewi Sant ynghyd ag eglwysi eraill sy'n aelodau o CytΓ»n Dinas Caerdydd a'r Bae yn cymryd rhan mewn helfa hanes fel rhan o 'Ddrysau Agored'. Bydd Dewi Sant yn agored rhwng 10.30am a chanol dydd yfory 6 Medi a dydd Sadwrn 13 Medi.

05.09.2025 22:02 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image Post image Post image Post image

Buodd Eglwys Dewi Sant ar bererindod i Abaty Margam wythnos diwethaf. Cafwyd cyfle i ymdawelu, dysgu am ei hanes cyfoethog a chyfle i gyd-addoli yn yr eglwys ac yn adfeilion Capel Mair ar y Bryn. Cafwyd croeso mawr a chynnes gyda phaned a darn o fara brith blasus iawn.

04.09.2025 16:11 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image

Dros y 6 mis diwethaf yr ydym fel eglwys wedi cael y fraint o fod yn gartref i Gerddorfa Dovetail. Mae'r gerddorfa hon yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Cynhelir cyngerdd diwedd tymor yfory, 24 Gorff am 11am yn yr Eglwys. Croeso i chi ddod a mwynhau y gerddoriaeth.

23.07.2025 16:57 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image

Os dych chi'n chwilio am gyfle i sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar, mae croeso cynnes i chi ymuno Γ’ ni am ein bore Coffi a Chlonc yn neuadd Eglwys Dewi Sant dydd Sadwrn 19 Gorffennaf rhwng 10.30am a 12.00pm.

17.07.2025 22:47 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 1    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

Diolch i bawb sydd wedi fy nghroesawu i Bluesky. Mae'n hyfryd gwrdd a hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd mor gyflym.

17.07.2025 22:45 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

Dyma fi'n mentro am y tro cyntaf ar Bluesky - newydd a chyffrous.

Dwi'n addo bydd y neges nesaf ychydig yn fwy difyr!

14.07.2025 15:05 β€” πŸ‘ 5    πŸ” 2    πŸ’¬ 2    πŸ“Œ 0

@eglwysdewisant is following 18 prominent accounts