Gruff's Avatar

Gruff

@gruffydd-sion.bsky.social

Dylunydd 🎨 Awdur achlysurol 🎭 Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC πŸ’» Designer πŸ‘¨β€πŸŽ¨ Occasional author πŸ“ Creative Director for Service Design and UX at the BBC πŸ‘¨β€πŸ’» πŸ“Caerdydd | Cardiff

381 Followers  |  1,055 Following  |  30 Posts  |  Joined: 17.11.2024  |  2.1664

Latest posts by gruffydd-sion.bsky.social on Bluesky

Post image

Dyma sut mae’i gwneud hi.

Bod yn rhan o’r trend mewn ffordd greadigol, sy’n driw i’r brand, meithrin ewyllys da a ddim yn bradychu’r gymuned greadigol mae’r sefydliad yn rhan ohono.

Da iawn y Young Vic πŸ‘πŸ‘πŸ‘

12.04.2025 16:38 β€” πŸ‘ 14    πŸ” 5    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

Yr erthygl yma yn gwneud pwyntiau difyr ar yr un thema. Werth ei ddarllen.

β€œThey gave us an everything generator but everyone is obsessed with making it do the same thing,”

carly.substack.com/p/everything...

11.04.2025 08:33 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Darlun o degan yn dehongli Kath Jones Pobol y Cwm yn defnyddio ei hedrychiad o'i ymddangosiad cyntaf yn y gyfres o 1993. Cafodd y darlun ei greu gan ddefnyddio'r rhaglen 3D open source Blender. Cafodd dim AI ei ddefnyddio wrth greu'r darlun yma.

Mae o werth crybwyll gyda llaw mai dim dyma'r tro cyntaf i'r syniad teganau 'ma ddod i'r amlwg. Yn 2021 cafodd y dylunydd bach yma go ar rywbeth ddigon tebyg. Defnyddiwyd DIM AI o gwbl i greu'r rhain, mond creadigrwydd, mynadd a chariad at y cynnwys. Os alla i wneud o... (FIN)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

Dim dyma fydd y 'trend' olaf i wneud defnydd o luniau AI, ond cyn i'r nesaf gyrraedd dwi'n gobeithio gwneith y sefydliadau hyn adlewyrchu ar wir gost y dechnoleg ar y sector greadigol yng Nghymru ac i'w brand nhw fel cwmnΓ―au. Ydi o wir werth y 'like'? (17/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Mae'n hawdd gwneud sbort ond dim gweld bai ydi pwrpas yr edefyn hwn. Fel unrhyw dechnoleg newydd mae'n naturiol bydd cyfnod o arbrofi a bod camgymeriadau a dewisiadau annoeth am gael eu gwneud heb falais na fwriad gwael OND fel sefydliadau cenedlaethol mae goblygiadau i'w cysidro... (16/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0
Post Instagram o gyfrif Cefn Gwlad / S4c yn dehongli'r cyflwynydd Ifan Jones Evans fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Cefn Gwlad / S4c yn dehongli'r cyflwynydd Ifan Jones Evans fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Elfen o post Instagram o gyfrif Senedd Cyrmu yn dehongli baner Cymru o fath. Mae siap y ddraig yn rhyfedd a hanner ei ben ar goll. Creuwyd y darlun yn defnyddio AI.

Elfen o post Instagram o gyfrif Senedd Cyrmu yn dehongli baner Cymru o fath. Mae siap y ddraig yn rhyfedd a hanner ei ben ar goll. Creuwyd y darlun yn defnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Senedd Cymru yn dehongli draig o'r enw Fflam  fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Senedd Cymru yn dehongli draig o'r enw Fflam fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Honerable mention i rhain. Byddwn i'n talu i weld Ifan Jones Evans yn trio ffitio fewn i'r tractor yma gan gyfrif Cefn Gwlad ond dwi'm yn meddwl byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon gweld y faner yma yn hedfan tu allan i'r Senedd er eu bod yn ddigon bodlon ei rannu ar eu cyfrif Insta swyddogol. (15/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0
Post Instagram o gyfrif Heno / S4C yn dehongli'r cyflwynydd Angharad Mair fel tegan. Nid oes ganddi goesau. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Heno / S4C yn dehongli'r cyflwynydd Angharad Mair fel tegan. Nid oes ganddi goesau. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Heno / S4C yn dehongli'r cyflwynydd Elin Fflur fel tegan. Nid oes ganddi goesau. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Heno / S4C yn dehongli'r cyflwynydd Elin Fflur fel tegan. Nid oes ganddi goesau. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

O leiaf maen nhw'n edrych fel teganau sy'n fwy na alla'i ddweud am ymgais Heno. Dwi'm yn siΕ΅r iawn pam bod y ffigyrau yma angen esgid (neu ddwy) fel ACCESSORI [sic] pan di'r AI heb foddran cynnwys coesau. (14/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0
Post Instagram o gyfrif Pobol y Cwm / S4C yn dehongli'r cymeriad Cassie fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Pobol y Cwm / S4C yn dehongli'r cymeriad Cassie fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Pobol y Cwm / S4C yn dehongli'r cymeriad Dai fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

Post Instagram o gyfrif Pobol y Cwm / S4C yn dehongli'r cymeriad Dai fel tegan. Creuwyd y darlun gan ddefnyddio AI.

I fod yn benodol... edrychwch ar Cassie a Dai yn yr enghraifft yma gan Bobol y Cwm. Does dim cysondeb rhwng y cymeriadau. Mae'r llygad yn wahanol, mae maint y pen i gymharu Γ’'r corff yn wahanol, mae ratio'r paced yn wahanol, heb sΓ΄n am y ffaith bod logo'r gyfres wedi newid ers mis Hydref. (13/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

4. Safon. Ydi'r cynnwys mewn gwirionedd yn ddigon dda i'w rannu? Petai'r darlun wedi cael ei greu gan ddylunydd yn hytrach na chyfrifiadur byddai'r gwaith wir wedi cael ei dderbyn? Byddwn i'n cwestiynu hynny wrth weld rhai o'r enghreifftiau "dolltrend" gafodd eu rhannu heddiw... (12/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Os nad oes strategaeth AI gan y cwmni dylid chwarae hi'n saff a pheidio defnyddio'r dechnoleg nes bod rheolau yn eu lle. (11/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Os ydi'r Urdd er enghraifft am ddefnyddio AI i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol dylid hynny fod yn ddewis bwriadol y gellir ei gyfiawnhau gan y busnes, yn hytrach na phenderfyniad byrbwyll i neidio ar 'trend' a all niweidio'r brand yn yr hir dymor... (10/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

3. Strategaeth. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n realistig na dymunol fel busnes i ymwrthod rhag defnyddio AI yn gyfan gwbl OND mae dyletswydd ar fusnesau i wneud penderfyniadau strategol ynglΕ·n Γ’ phryd a sut maen nhw am ei ddefnyddio a chysidro effaith y penderfyniadau hynny o flaen llaw... (9/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

yn hytrach na chefnogi'r sector greadigol a thalu dylunwyr a darlunwyr, mae nhw'n cyfleu'r neges bod dim gwerth i'r sgiliau yma. Ag os yw hynny’n wir am ddylunwyr pa sgiliau creadigol gall eu hallanoli nesaf? Sgriptio? StorΓ―o? Cyfarwyddo? Ai dyma sut mae meithrin Cymru creadigol y dyfodol? (8/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

2. Undod. Does dim dwywaith bod y cyfnod presennol yn un heriol i'r sectorau creadigol, ac mae AI yn rhannol gyfrifol. Mae dyletswydd arnom ni sydd yn gweithio yn y sectorau hyn i gefnogi ein gilydd a pharchu gwerth artistiaid. Os ydi S4C er enghraifft yn defnyddio AI i greu darluniau... (7/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Pam? Amlwg eto efallai, ond mae cael sefydliad Cenedlaethol yn defnyddio AI mewn ffordd mor amlwg yn normaleiddio'r dechnoleg a rhoi "caniatad" i fusnesau llai o faint wneud yr un peth. (6/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

1. Cyfrifoldeb. Mae rhai sefydliadau gyda mwy o gyfrifoldeb am yr hyn maen nhw'n rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol nag eraill. Amlwg efallai, ond wrth neidio ar trends mae 'na wahaniaeth enfawr rhwng dy fodryb Janet yn creu darlun AI a chyfrif swyddogol Senedd Cymru yn gwneud yr un peth... (5/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 3    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Be felly allwn ni ddysgu o'r tuedd newydd yma a pa ffactorau dylai sefydliadau gysidro wrth edrych ymlaen at y tro nesaf mae trend o'r fath?... (4/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

alla'i ddim dweud fy mod yn erbyn defnyddio'r dechnoleg ymhob achos. Dwi'n gweithio yn y sector digidol - mae AI yma i aros a'n lle ni ydi dysgu sut i'w ddefnyddio mewn ffyrdd cyfrifol a moesegol a gyda dealltwriaeth lawn o'r effaith. Wrth edrych ar "dolltrend" mae lle i gychwyn trafodaeth. (3/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 1    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Mae'r darluniau yma wedi cael eu creu gydag AI, ChatGPT i fod yn benodol. Wrth gwrs mae AI yn ddadleuol i ddweud y lleiaf - mae cyhuddiadau bod y dechnoleg wedi ei hyfforddi ar waith creadigol heb ganiatΓ’d artistiaid yn peri gofid heb sΓ΄n am effaith y gofynion ynni ar yr amgylchedd. Er hyn... (2/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 0    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Wedi cael fy siomi i weld nifer o sefydliadau Cymraeg megis S4C a'r Senedd yn neidio ar trend AI "Dolltrend" ar y Cyfryngau Cymdeithasol. Mae fy ffrwd Instagram wedi bod yn llawn ohonynt yn dehongli cymeriadau Rownd a Rownd er enghraifft fel teganau. Bach o sbort? Be di'r broblem 'lly? (1/)

10.04.2025 07:14 β€” πŸ‘ 4    πŸ” 1    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 1
Ni chaniateir atgynhyrchu na throsglwyddo unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, mewn unrhyw ffurf na thrwy unrhyw fodd (ac eithrio dyfyniadau byr at ddibenion newyddiadurol neu adolygu), heb ganiatΓ’d ysgrifenedig penodol Lemon Ink Ltd a Caspar Wijngaard, neu Image Comics, Inc. Mae pob enw, cymeriad, digwyddiad, a lleoliad yn y cyhoeddiad hwn yn gwbl ffuglenol. Mae unrhyw debygrwydd i bersonau (byw neu farw), digwyddiadau neu leoedd, heb fwriad dychanol yn gyd-ddigwyddiad. Argraffwyd yng Nghanada. Am hawliau rhyngwladol, cysylltwch Γ’: foreignlicensing@imagecomics.com | Ffontiau: Cynosure, ffont dyfais a ddyluniwyd gan Rian Hughes | Ar gyfer pob rhybudd diogelwch pellach, cyfeiriwch at y testun Saesneg uchod. Nid ydym yn mynd i fwlio ein holl ffrindiau amlieithog i gyfieithu hyn bob rhifyn. Nid oes neb yn ein hoffi cymaint Γ’ hynny.

It’s mostly correct. Would be good to see the English for comparison.

Some suggested changes in alt text

14.03.2025 10:03 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 2    πŸ“Œ 0

(You won’t believe No.2 - Cael affair) ayyb…

20.12.2024 17:11 β€” πŸ‘ 5    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Preview
Sut mae dathlu'r Dolig fel Pobol y Cwm Mae Dydd Nadolig yr amser perffaith i gael bach o ddrama yn eich bywyd...

Gohebydd Swyddogol Cymru Fyw yng Nghwmderi (fi) yn Γ΄l unwaith eto hefo’r top tips ar sut i ddathlu’r dolig perffaith Pobol y Cwm style - a dwi ddim yn sΓ΄n am dwrci a tinsel…

www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...

20.12.2024 17:10 β€” πŸ‘ 5    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 1

Fuodd criw ohonom yn gwylio’r ffilm am y ganfed tro rhai dyddiau nol. Dal yn haeddu ei le fel clasur!

11.12.2024 23:54 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

A masiwr na dyna pam dio ddim ar YouTube bellach! πŸ˜‚

03.12.2024 22:08 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

Dim bellach. Mi oedd Gwaed ar y SΓͺr ar YouTube am gyfnod ond mae o i weld wedi diflannu. Mae’r ddau yn cael eu darlledu ar S4C yn achlysurol o gwmpas Calan Gaeaf ond dim leni yn anffodus.

03.12.2024 21:42 β€” πŸ‘ 3    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Gwaed ar y SΓͺr neu O’r Ddaear HΓͺn masiwr. Yr un ohonynt yn β€˜18’ fel y cyfrif ond na chwaith yn ffilmiau i blant ifanc am wn i!

03.12.2024 21:23 β€” πŸ‘ 2    πŸ” 0    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0
Poster darluniadol ar gyfer ffilm β€˜Y Dyn β€˜Nath Ddwyn y Dolig’ yn arddull y darlunydd Drew Struzan.

Poster darluniadol ar gyfer ffilm β€˜Y Dyn β€˜Nath Ddwyn y Dolig’ yn arddull y darlunydd Drew Struzan.

Wedi gwirioni efo posteri ffilm erioed, yn enwedig rhai yn arddull darluniol Drew Struzan (Star Wars, Blade Runner ayyb).

Ond tan yn gymharol ddiweddar ychydig iawn o bosteri trawiadol oedd i weld ar gyfer ffilmiau Cymraeg.

So… es i nol mewn amser i Nadolig 1985 i lenwi’r bwlch fy hun.

25.11.2024 09:08 β€” πŸ‘ 15    πŸ” 3    πŸ’¬ 1    πŸ“Œ 0

Braf gweld y nofel gyffroes yma yn cael cymaint o sylw haeddianol.

Braint oedd cael cydweithio efo Gwenno a Gwasg y Bwthyn ar ddyluniad y clawr. β€˜Di brat summer ddim drosodd yn Nghymru eto…

24.11.2024 12:31 β€” πŸ‘ 8    πŸ” 2    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0
Post image Post image Post image Post image

Rhai uchafbwyntiau o Benwythnos Orielau’r Rhath. Werth crwydro er waetha’r tywydd.

24.11.2024 12:28 β€” πŸ‘ 6    πŸ” 0    πŸ’¬ 0    πŸ“Œ 0

@gruffydd-sion is following 20 prominent accounts